2 Samuel 1:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw.

16. Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”

17. Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,

18. a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:

19. “O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!O fel y cwympodd y cedyrn!

20. “Peidiwch â'i adrodd yn Gath,na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.

2 Samuel 1