11. Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;
12. a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thŷ Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.
13. Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.”
14. Ac meddai Dafydd wrtho, “Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?”
15. Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw.
16. Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”
17. Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,
18. a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:
19. “O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!O fel y cwympodd y cedyrn!
20. “Peidiwch â'i adrodd yn Gath,na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.
21. “O fynyddoedd Gilboa,na foed gwlith na glaw arnoch,chwi feysydd marwolaeth.Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,tarian Saul heb ei hiro ag olew.
22. “Oddi wrth waed lladdedigion,oddi wrth fraster rhai cedyrn,ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl;a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.