2 Macabeaid 9:2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr oedd wedi mynd i mewn i'r ddinas a elwir Persepolis a cheisio ysbeilio'i themlau a'i chymryd hi i'w feddiant. Parodd hyn i'r bobl ruthro i gymryd arfau i'w hamddiffyn, a'r canlyniad fu i Antiochus gael ei yrru ar ffo gan y trigolion a gorfod cilio mewn gwarth.

2 Macabeaid 9

2 Macabeaid 9:1-12