15. byddai'n gwneud yr Iddewon yn gydradd bob un ohonynt â'r Atheniaid, er iddo benderfynu ynghynt nad oeddent yn deilwng o'u claddu, ond eu bod i'w lluchio allan, hwy a'u plant, yn fwyd i'r adar a'r bwystfilod;
16. byddai'n addurno â rhoddion gwych iawn y deml sanctaidd a ysbeiliwyd ganddo gynt, ac yn dychwelyd y llestri cysegredig bob un ar raddfa lawer helaethach; a byddai'n talu o'i gyllid personol y costau a gyfrifid i'r aberthau.
17. Ar ben hynny fe ddôi yntau'n Iddew, ac ymweld â phob rhan o'r byd cyfannedd i gyhoeddi gallu Duw.
18. Ond ni bu dim pall ar ei boenau, oherwydd yr oedd barnedigaeth gyfiawn Duw wedi dod arno. Felly, mewn anobaith am ei gyflwr, ysgrifennodd at yr Iddewon y llythyr a welir isod. Natur ymbil sydd iddo, a dyma'i gynnwys:
19. “At yr Iddewon, fy ninasyddion teilwng, cyfarchion lawer ac iechyd a llwyddiant oddi wrth y brenin a'r cadfridog Antiochus.
20. Bydded i chwi a'ch plant ffynnu ac i'ch amgylchiadau fod wrth eich bodd.
21. A'm gobaith yn y nef, yr wyf yn galw i gof yn serchog eich parch a'ch ewyllys da. Pan oeddwn yn dychwelyd o barthau Persia, daeth gwaeledd beichus arnaf, a bernais mai rhaid oedd ystyried diogelwch cyffredinol pawb.
22. Nid wyf yn digalonni am fy nghyflwr; i'r gwrthwyneb, yr wyf yn llawn gobaith y caf ryddhad o'm gwaeledd.
23. Eto, yr wyf wedi ystyried y byddai fy nhad yntau, bob tro y byddai'n mynd â'i fyddin i'r taleithiau dwyreiniol, yn pennu ei olynydd,