Heb oedi dim dewisodd yntau Nicanor fab Patroclus, un o brif Gyfeillion y brenin, a'i anfon allan, yn ben ar fyddin o ugain mil o leiaf o ddynion o bob hil, i ddifa holl genedl yr Iddewon; a chydag ef fe benododd Gorgias, cadfridog a chanddo brofiad helaeth ar faes y gad.