2 Macabeaid 7:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Oherwydd o achos ein pechodau ein hunain yr ydym ni'n dioddef.

33. Ac os yw ein Harglwydd, y Duw byw, wedi digio am ysbaid er mwyn ein ceryddu a'n disgyblu, fe fydd yn ymgymodi eto â'i weision ei hun.

34. Ond tydi, y creadur aflan a'r ffieiddiaf o fodau dynol, paid â'th ddyrchafu dy hun yn ofer â'th obeithion ansylweddol rhyfygus, wrth godi dy law yn erbyn gweision nef.

35. Nid wyt eto wedi dianc o gyrraedd barnedigaeth yr Hollalluog, Gwyliedydd pob peth.

36. Y mae ein brodyr yn awr, ar ôl dioddef ysbaid o boen er mwyn yfed o ddyfroedd y bywyd tragwyddol, wedi cwympo, dan gyfamod Duw; ond tydi, trwy farn Duw fe gei'r gosb yr wyt yn ei haeddu am dy draha.

2 Macabeaid 7