2 Macabeaid 7:30-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Ond cyn iddi orffen siarad, meddai'r dyn ifanc, “Am beth yr ydych yn aros? Nid wyf yn ymddarostwng i orchymyn y brenin; yr wyf yn ymostwng yn hytrach i orchymyn y gyfraith a roddwyd i'n hynafiaid trwy Moses.

31. Ond tydi, sydd wedi dyfeisio pob math o ddrygioni yn erbyn yr Iddewon, nid oes dianc i ti o ddwylo Duw.

32. Oherwydd o achos ein pechodau ein hunain yr ydym ni'n dioddef.

33. Ac os yw ein Harglwydd, y Duw byw, wedi digio am ysbaid er mwyn ein ceryddu a'n disgyblu, fe fydd yn ymgymodi eto â'i weision ei hun.

34. Ond tydi, y creadur aflan a'r ffieiddiaf o fodau dynol, paid â'th ddyrchafu dy hun yn ofer â'th obeithion ansylweddol rhyfygus, wrth godi dy law yn erbyn gweision nef.

35. Nid wyt eto wedi dianc o gyrraedd barnedigaeth yr Hollalluog, Gwyliedydd pob peth.

36. Y mae ein brodyr yn awr, ar ôl dioddef ysbaid o boen er mwyn yfed o ddyfroedd y bywyd tragwyddol, wedi cwympo, dan gyfamod Duw; ond tydi, trwy farn Duw fe gei'r gosb yr wyt yn ei haeddu am dy draha.

37. Amdanaf fy hun, fel fy mrodyr yr wyf yn ildio fy nghorff a'm bywyd er mwyn cyfreithiau'n hynafiaid, ac yn galw ar Dduw am iddo dosturio'n fuan wrth ei genedl, ac am i ti gyfaddef dan artaith fflangellau mai ef yn unig sydd Dduw;

38. a bydded i lid yr Hollalluog, a ddaeth ar ein holl genedl yn unol â'i haeddiant, ddod i ben gyda mi a'm brodyr.”

39. Ymgynddeiriogodd y brenin, wedi ei glwyfo i'r byw gan y sen, a gwnaeth greulonach bethau iddo ef nag i'r lleill.

40. Ac yn ddihalog yr ymadawodd y brawd hwn hefyd â'r fuchedd hon, â'i hyder yn llwyr yn yr Arglwydd.

41. Yn olaf, gan ddilyn ei meibion, bu farw'r fam.

42. Boed hyn yn ddisgrifiad digonol o'r hyn a ddigwyddodd ynghylch bwyta'r cig aberthol, ac o enbydrwydd y trais.

2 Macabeaid 7