2 Macabeaid 7:28-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Yr wyf yn deisyf arnat, fy mhlentyn, edrych ar y nef a'r ddaear a gwêl bopeth sydd ynddynt, ac ystyria mai o ddim y gwnaeth Duw hwy, a bod yr hil ddynol yn dod i fodolaeth yn yr un modd.

29. Paid ag ofni'r dienyddiwr hwn, ond bydd deilwng o'th frodyr. Derbyn dy farwolaeth, er mwyn i mi dy gael yn ôl gyda'th frodyr yn nydd trugaredd.”

30. Ond cyn iddi orffen siarad, meddai'r dyn ifanc, “Am beth yr ydych yn aros? Nid wyf yn ymddarostwng i orchymyn y brenin; yr wyf yn ymostwng yn hytrach i orchymyn y gyfraith a roddwyd i'n hynafiaid trwy Moses.

31. Ond tydi, sydd wedi dyfeisio pob math o ddrygioni yn erbyn yr Iddewon, nid oes dianc i ti o ddwylo Duw.

32. Oherwydd o achos ein pechodau ein hunain yr ydym ni'n dioddef.

33. Ac os yw ein Harglwydd, y Duw byw, wedi digio am ysbaid er mwyn ein ceryddu a'n disgyblu, fe fydd yn ymgymodi eto â'i weision ei hun.

34. Ond tydi, y creadur aflan a'r ffieiddiaf o fodau dynol, paid â'th ddyrchafu dy hun yn ofer â'th obeithion ansylweddol rhyfygus, wrth godi dy law yn erbyn gweision nef.

35. Nid wyt eto wedi dianc o gyrraedd barnedigaeth yr Hollalluog, Gwyliedydd pob peth.

2 Macabeaid 7