2 Macabeaid 7:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Wedi hir gymell ganddo, cydsyniodd hi i berswadio'i mab;

27. pwysodd tuag ato, ac mewn dirmyg llwyr o'r teyrn creulon fe ddywedodd yn eu mamiaith, “Fy mab, tosturia wrthyf fi dy fam, a'th gariodd yn y groth am naw mis, a rhoi'r fron iti am dair blynedd, a'th fagu a'th ddwyn i'th oedran presennol, a'th gynnal.

28. Yr wyf yn deisyf arnat, fy mhlentyn, edrych ar y nef a'r ddaear a gwêl bopeth sydd ynddynt, ac ystyria mai o ddim y gwnaeth Duw hwy, a bod yr hil ddynol yn dod i fodolaeth yn yr un modd.

2 Macabeaid 7