2 Macabeaid 7:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Wedi i hwnnw ymadael â'r fuchedd hon, fe boenydiwyd ac arteithiwyd y pedwerydd yn yr un modd.

14. Pan ddaeth yn agos at y diwedd meddai, “Nid oes dim rhagorach nag ymadael â'r fuchedd hon trwy ddwylo dynol, a disgwyl am ein hatgyfodi gan Dduw, gan obeithio yn ei addewidion; ond i ti ni bydd atgyfodiad i fywyd.”

15. Yn nesaf daethpwyd â'r pumed ymlaen a'i boenydio.

16. Edrychodd ef ar y brenin ac meddai, “Am fod gennyt awdurdod ymhlith dynion yr wyt yn gwneud fel y mynni, er mai meidrolyn wyt. Ond paid â meddwl fod Duw wedi gadael ein cenedl yn amddifad.

17. Dal di ati, a chei weld mawredd ei rym yn yr arteithiau a ddaw arnat ti ac ar dy ddisgynyddion.”

2 Macabeaid 7