9. Y gŵr oedd wedi gyrru llaweroedd o'u gwlad yn alltudion, yn alltud y darfu amdano yntau yng ngwlad y Lacedaemoniaid; oherwydd yr oedd wedi hwylio yno yn y gobaith y câi loches ganddynt ar gyfrif eu tras gyffredin.
10. Ac yntau wedi lluchio llaweroedd allan i orwedd heb fedd, ni chafodd na galarwr nac angladd o unrhyw fath, na gorweddfan ym meddrod ei hynafiaid.
11. Pan ddaeth y newydd am y digwyddiadau hyn i glust y brenin, tybiodd ef fod Jwdea'n gwrthryfela. Gan hynny, ymadawodd â'i wersyll yn yr Aifft yn gynddeiriog ei lid.
12. Cymerodd y ddinas trwy rym arfau, gan orchymyn i'w filwyr ladd yn ddiarbed bawb o fewn eu cyrraedd a tharo'n gelain bawb a geisiai ddianc i'w tai.
13. Fe aed ati i lofruddio'r ifanc a'r hen, difa glaslanciau a gwragedd a phlant, a gwneud lladdfa o enethod dibriod a babanod.
14. Yn ystod y tridiau cyfan collwyd pedwar ugain mil: deugain mil yn y drin, a gwerthwyd i gaethiwed o leiaf gynifer ag a lofruddiwyd.
15. Ond ni fodlonodd y brenin ar hynny. Rhyfygodd fynd i mewn i'r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd gyda Menelaus yn ei dywys, dyn oedd wedi troi'n fradwr i'r cyfreithiau ac i'w wlad.
16. Gosododd ei ddwylo halogedig ar y llestri cysegredig, ac â'r dwylo aflan hynny ysgubodd ynghyd y rhoddion a adawyd gan frenhinoedd eraill er cynnydd gogoniant y deml a'i bri.
17. Yn ymchwydd ei hunan-dyb diderfyn, ni ddeallai Antiochus mai pechodau trigolion y ddinas oedd wedi digio'r Arglwydd dros dro, ac mai hyn a barodd iddo anwybyddu'r deml.
18. Oni bai am eu hymddygiad tra phechadurus, buasai'r creadur hwn hefyd wedi ei fflangellu ar ei ddyfodiad, a'i gynllun rhyfygus wedi ei ddymchwel, yn union fel y digwyddodd i Heliodorus, y dyn a anfonwyd gan y Brenin Selewcus i wneud arolwg o'r drysorfa.
19. Ond nid dewis y genedl er mwyn y deml a wnaeth yr Arglwydd, ond yn hytrach y deml er mwyn y genedl.
20. Am hynny cafodd y deml ei hun ei rhan o aflwydd y genedl, ac yn ddiweddarach fe gyfranogodd o'i llwydd; wedi ei gadael yn amddifad yn nydd digofaint yr Hollalluog, fe'i hadferwyd drachefn â phob gogoniant yn nydd cymod yr Arglwydd mawr.