19. Ond nid dewis y genedl er mwyn y deml a wnaeth yr Arglwydd, ond yn hytrach y deml er mwyn y genedl.
20. Am hynny cafodd y deml ei hun ei rhan o aflwydd y genedl, ac yn ddiweddarach fe gyfranogodd o'i llwydd; wedi ei gadael yn amddifad yn nydd digofaint yr Hollalluog, fe'i hadferwyd drachefn â phob gogoniant yn nydd cymod yr Arglwydd mawr.
21. Felly, wedi iddo gymryd deunaw can talent o'r deml, dychwelodd Antiochus ar frys i Antiochia, gan fwriadu yn ymchwydd trahaus ei galon wneud y tir yn fôr i hwylio arno a'r môr yn dir i gerdded arno.
22. Gadawodd ar ei ôl lywodraethwyr i ddrygu'r genedl: Philip yn Jerwsalem, Phrygiad o ran cenedl, ac o ran ei gymeriad barbariad gwaeth na'r un a'i penododd;
23. ac Andronicus yn Garisim. Heblaw'r ddau hyn gadawodd Menelaus, y mwyaf haerllug ohonynt tuag at y dinasyddion. Ac oherwydd ei agwedd elyniaethus tuag at y dinasyddion Iddewig,
24. anfonodd Antiochus Apolonius, cadfridog y Mysiaid, gyda byddin o ddwy fil ar hugain, a gorchymyn iddo ladd pob gŵr oedd yn ei lawn oed, a gwerthu'r gwragedd a'r bechgyn yn gaethweision.
25. Pan gyrhaeddodd hwn Jerwsalem cymerodd arno fod yn ddyn heddychlon. Disgwyliodd tan ddydd sanctaidd y Saboth. Pan gafodd fod yr Iddewon yn gorffwys o'u gwaith, gorchymynnodd i'w filwyr orymdeithio'n arfog.
26. Gwnaeth laddfa o bawb oedd wedi dod allan i wylio, ac yna rhuthrodd i mewn i'r ddinas gyda'i filwyr, a gadael llaweroedd yn gelain ar lawr.
27. Ymgiliodd Jwdas Macabeus gyda rhyw naw arall i'r anialwch, a byw fel anifeiliaid gwyllt yn y mynyddoedd gyda'i ddilynwyr. Ac ar hyd yr amser ymgadwent rhag bwyta dim ond llysiau, rhag ofn halogiad.