2 Macabeaid 5:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Pan ddaeth y newydd am y digwyddiadau hyn i glust y brenin, tybiodd ef fod Jwdea'n gwrthryfela. Gan hynny, ymadawodd â'i wersyll yn yr Aifft yn gynddeiriog ei lid.

12. Cymerodd y ddinas trwy rym arfau, gan orchymyn i'w filwyr ladd yn ddiarbed bawb o fewn eu cyrraedd a tharo'n gelain bawb a geisiai ddianc i'w tai.

13. Fe aed ati i lofruddio'r ifanc a'r hen, difa glaslanciau a gwragedd a phlant, a gwneud lladdfa o enethod dibriod a babanod.

14. Yn ystod y tridiau cyfan collwyd pedwar ugain mil: deugain mil yn y drin, a gwerthwyd i gaethiwed o leiaf gynifer ag a lofruddiwyd.

15. Ond ni fodlonodd y brenin ar hynny. Rhyfygodd fynd i mewn i'r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd gyda Menelaus yn ei dywys, dyn oedd wedi troi'n fradwr i'r cyfreithiau ac i'w wlad.

16. Gosododd ei ddwylo halogedig ar y llestri cysegredig, ac â'r dwylo aflan hynny ysgubodd ynghyd y rhoddion a adawyd gan frenhinoedd eraill er cynnydd gogoniant y deml a'i bri.

17. Yn ymchwydd ei hunan-dyb diderfyn, ni ddeallai Antiochus mai pechodau trigolion y ddinas oedd wedi digio'r Arglwydd dros dro, ac mai hyn a barodd iddo anwybyddu'r deml.

2 Macabeaid 5