1. Tua'r amser hwn paratôdd Antiochus ar gyfer ei ail ymosodiad ar yr Aifft.
2. Am yn agos i ddeugain diwrnod fe welwyd gweledigaethau uwchben y ddinas gyfan: marchogion mewn dillad o frodwaith aur yn carlamu trwy'r awyr, catrodau o waywffonwyr arfog, cleddyfau'n cael eu tynnu,
3. cwmnïoedd o filwyr meirch yn eu rhengoedd, dwy fyddin yn ymosod a gwrthymosod ar ei gilydd, yn ysgwyd tarianau, yn pentyrru gwaywffyn hir, yn gollwng saethau, a'u haddurniadau aur a'u llurigau gwahanol yn fflachio.
4. O ganlyniad, yr oedd pawb yn gweddïo am i'r weledigaeth fod yn argoel o rywbeth da.
5. A phan fu sôn, ar gam, fod Antiochus wedi ymadael â'r fuchedd hon, cymerodd Jason dros fil o wŷr ac ymosod yn ddirybudd ar y ddinas; ac o weld yr amddiffynwyr wedi eu hymlid oddi ar y muriau, a'r ddinas o'r diwedd ar gael ei llwyr feddiannu, fe ffodd Menelaus i'r gaer.
6. Ond dal ymlaen â'i laddfa ddidrugaredd ar ei gyd-ddinasyddion a wnaeth Jason, heb ystyried nad oes aflwydd tebyg i lwydd rhywun ar draul ei bobl ei hun; yn ei olwg ef, buddugoliaeth ar elynion, nid ar ei genedl ei hun, yr oedd yn ei dathlu.
7. Ond methodd ddod yn ben; a diwedd ei gynllwyn fu gwarth, a ffoi'n alltud unwaith eto i dir yr Amoniaid.