2 Macabeaid 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tua'r amser hwn paratôdd Antiochus ar gyfer ei ail ymosodiad ar yr Aifft.

2. Am yn agos i ddeugain diwrnod fe welwyd gweledigaethau uwchben y ddinas gyfan: marchogion mewn dillad o frodwaith aur yn carlamu trwy'r awyr, catrodau o waywffonwyr arfog, cleddyfau'n cael eu tynnu,

3. cwmnïoedd o filwyr meirch yn eu rhengoedd, dwy fyddin yn ymosod a gwrthymosod ar ei gilydd, yn ysgwyd tarianau, yn pentyrru gwaywffyn hir, yn gollwng saethau, a'u haddurniadau aur a'u llurigau gwahanol yn fflachio.

4. O ganlyniad, yr oedd pawb yn gweddïo am i'r weledigaeth fod yn argoel o rywbeth da.

2 Macabeaid 5