2 Macabeaid 4:4-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwelodd Onias fod y gynnen yn beryglus, a bod Apolonius fab Menestheus, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, yn cefnogi anfadwaith Simon.

5. Gan hynny, aeth at y brenin, nid fel un yn cyhuddo'i gyd-ddinasyddion, ond fel un â'i olwg ar fudd ei holl bobl, yn gymdeithas ac yn unigolion.

6. Oherwydd, heb arweiniad gan y brenin, fe welai na cheid byth fywyd cyhoeddus heddychol, nac unrhyw ball ar ffolineb Simon.

7. Wedi i Selewcus ymadael â'r fuchedd hon ac i Antiochus, a gyfenwid Epiffanes, ei olynu yn y frenhiniaeth, enillodd Jason, brawd Onias, yr archoffeiriadaeth trwy lwgrwobrwyaeth.

8. Mewn cyfarfod â'r brenin addawodd iddo dri chant chwe deg o dalentau o arian, a phedwar ugain talent allan o ryw ffynhonnell arall.

9. Heblaw hynny, ymrwymodd, pe caniateid iddo sefydlu dan ei awdurdod ei hun gampfa ac ysgol hyfforddi llanciau, i dalu can talent a hanner yn ychwanegol ac i lunio cofrestr o Antiochiaid yn Jerwsalem.

10. Wedi i'r brenin roi ei ganiatâd, meddiannodd Jason ei swydd ac yn ddiymdroi gwnaeth i'w gydwladwyr droi i'r ffordd Helenistaidd o fyw.

11. Dirymodd y breintiau elusennol a roddwyd i'r Iddewon gan y brenhinoedd trwy waith Ioan, tad yr Ewpolemus hwnnw a aeth yn llysgennad i wneud cytundeb o gyfeillgarwch a chynghrair â'r Rhufeiniaid. Diddymodd y sefydliadau cyfreithlon a chreu arferion newydd anghyfreithlon.

12. Oherwydd gwelodd yn dda sefydlu campfa wrth droed caer y ddinas, a gwneud i'r goreuon o'r llanciau wisgo het athletwyr.

13. O achos anfadwaith diatal y ffug-archoffeiriad annuwiol Jason, cyrhaeddodd Helenistiaeth a'r cynnydd mewn arferion estron y fath bwynt

14. fel y collodd yr offeiriaid eu sêl ynglŷn â gwasanaethau'r allor; aethant yn ddirmygus o'r deml ac yn ddi-hid am yr aberthau, ac ar sain y gong rhuthrent i gymryd rhan yn ymarferion anghyfreithlon yr ysgol ymgodymu.

15. Nid oedd y breintiau traddodiadol yn ddim yn eu golwg; yr anrhydeddau Helenistaidd oedd ardderchocaf yn eu tyb hwy.

16. Oherwydd hynny adfyd fu eu rhan, a chawsant fod yr union bobl y ceisient efelychu eu ffyrdd, ac y dymunent ymdebygu iddynt ym mhob peth, yn elynion dialgar.

17. Oherwydd nid peth dibwys yw amharchu cyfreithiau Duw, fel y dengys y cyfnod dilynol yn amlwg.

18. Pan oedd y chwaraeon pen-pum-mlynedd yn cael eu cynnal yn Tyrus gerbron y brenin,

19. anfonodd y Jason aflan hwn negeswyr i gynrychioli Jerwsalem. Antiochiaid oeddent, yn dwyn gyda hwy dri chan drachma o arian yn gyfraniad at yr aberth i Hercules. Ond mynnodd cludwyr yr arian eu hunain beidio â'u defnyddio at aberth, am nad oedd hynny'n weddus, ond eu neilltuo at ryw ddiben arall.

2 Macabeaid 4