2 Macabeaid 3:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. A dyma'r dyn, a oedd ychydig ynghynt wedi dod i mewn i'r drysorfa honno gyda gosgordd niferus a'i holl warchodlu arfog, yn cael ei gludo allan yn ddiymadferth gan ddynion oedd yn cydnabod yn agored benarglwyddiaeth Duw.

29. Tra oedd ef, o achos y weithred ddwyfol, yn gorwedd yn fud a heb unrhyw obaith am adferiad,

30. yr oedd yr Iddewon yn bendithio'r Arglwydd am iddo ogoneddu ei fangre gysegredig mewn ffordd mor wyrthiol. Yr oedd y deml, a fuasai ychydig ynghynt yn llawn ofn a chynnwrf, yn awr, o achos ymddangosiad yr Arglwydd hollalluog, yn gyforiog o lawenydd a gorfoledd.

31. Ac yn fuan ceisiodd rhai o gymdeithion Heliodorus gan Onias alw ar y Goruchaf, a rhoi o'i raslonrwydd ei fywyd i ddyn oedd yn ddiau ar dynnu ei anadl olaf.

2 Macabeaid 3