2 Macabeaid 3:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ond mynnai Heliodorus, ar bwys ei orchmynion gan y brenin, fod rhaid atafaelu'r arian hwn i'r drysorfa frenhinol.

14. Ar y dydd a bennodd, aeth i mewn i'r deml i wneud arolwg o'r adneuon; a gwelwyd ing pryder nid bychan trwy'r ddinas gyfan.

15. Fe'u taflodd yr offeiriaid eu hunain yn eu gwisgoedd offeiriadol ar eu hyd o flaen yr allor, gan alw i'r nef ar i awdur deddf yr adneuon gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'r adneuwyr.

2 Macabeaid 3