2 Macabeaid 3:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd perffaith hedd yn teyrnasu yn y ddinas sanctaidd, a'r cyfreithiau'n cael eu cadw'n ddi-fai dan ddylanwad duwioldeb Onias yr archoffeiriad a'i atgasedd at ddrygioni.

2. Ac yr oedd y brenhinoedd hwythau yn anrhydeddu'r cysegr a'r deml, ac yn eu gogoneddu â rhoddion ysblennydd iawn.

3. Yn wir, fe aeth Selewcus brenin Asia mor bell â thalu allan o'i gyllid personol holl dreuliau gweinyddu'r aberthau.

4. Ond cododd cynnen rhwng rhyw Simon, gŵr o lwyth Benjamin, goruchwyliwr y deml wrth ei swydd, a'r archoffeiriad ynghylch rheolaeth marchnadoedd y ddinas.

5. Pan fethodd Simon gael y trechaf ar Onias, aeth at Apolonius fab Tharseus, a oedd ar y pryd yn llywodraethwr ar Celo-Syria a Phenice.

6. Dywedodd wrtho fod y drysorfa yn Jerwsalem mor llawn o drysor annisgrifiadwy nes bod cyfanswm ei werth y tu hwnt i gyfrif; nid oedd yn cyfateb, meddai, i gyfrif yr aberthau, a gellid dod ag ef dan awdurdod y brenin.

7. Cafodd Apolonius gyfarfod â'r brenin, a rhoes wybod iddo am yr honiadau a wnaethpwyd iddo ynghylch yr arian. Dewisodd y brenin Heliodorus, ei brif weinidog, a'i anfon dan orchymyn i drefnu symud ymaith yr arian dan sylw.

8. Cychwynnodd Heliodorus ar ei union dan esgus ymweld yn swyddogol â dinasoedd Celo-Syria a Phenice, ond ei wir amcan oedd cyflawni cynllun y brenin.

9. Wedi cyrraedd Jerwsalem a chael derbyniad croesawus gan archoffeiriad y ddinas, cyfeiriodd at yr hyn oedd wedi ei ddwyn i'r golwg, ac esboniodd bwrpas ei ymweliad, gan holi a oedd y stori'n wir.

10. Rhoes yr archoffeiriad ar ddeall mai arian wedi ei ymddiried ar gyfer gwragedd gweddw a phlant amddifad oedd yno,

11. heblaw rhywfaint o eiddo Hyrcanus fab Tobias, gŵr o gryn urddas; ac er gwaethaf ensyniadau'r Simon annuwiol hwnnw, pedwar can talent o arian a dau gan talent o aur oedd y cyfanswm;

12. ac ni ellid mewn modd yn y byd wneud cam â'r bobl oedd wedi rhoi eu hymddiriedaeth yng nghysegredigrwydd y fangre ac yn urddas seintwar a theml a berchid trwy'r byd i gyd.

13. Ond mynnai Heliodorus, ar bwys ei orchmynion gan y brenin, fod rhaid atafaelu'r arian hwn i'r drysorfa frenhinol.

14. Ar y dydd a bennodd, aeth i mewn i'r deml i wneud arolwg o'r adneuon; a gwelwyd ing pryder nid bychan trwy'r ddinas gyfan.

15. Fe'u taflodd yr offeiriaid eu hunain yn eu gwisgoedd offeiriadol ar eu hyd o flaen yr allor, gan alw i'r nef ar i awdur deddf yr adneuon gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'r adneuwyr.

2 Macabeaid 3