2 Macabeaid 2:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. megis nad gorchwyl esmwyth yw paratoi gwledd a cheisio boddhau chwaeth pobl eraill. Er hynny, i ennill diolchgarwch y cyhoedd, byddaf yn dwyn y baich yn llawen.

28. Lle'r awdur gwreiddiol oedd manylu ar bob digwyddiad, ond ymdrechu y byddaf fi i ddilyn amlinelliad cryno.

29. Oherwydd yn union fel y mae'n rhaid i bensaer tŷ newydd ystyried yr holl adeiladwaith, tra mae'r dyn sy'n ceisio peintio â chwyr poeth yn gorfod chwilio a dewis yr hyn sy'n addas at addurno, felly y barnaf ei bod hi arnaf finnau.

30. Y mae'n briodol i awdur gwreiddiol yr hanes fynd dros y maes llafur, gan ei droedio o'r naill ben i'r llall a chwilota ymhlith y manion;

2 Macabeaid 2