2 Macabeaid 2:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Y mae'r digwyddiadau hyn wedi cael eu disgrifio gan Jason y Cyreniad mewn pum cyfrol. Fy mwriad i yw ceisio crynhoi'r cwbl mewn un llyfr.

24. Oherwydd o ystyried y ffrwd o rifau, a'r rhwystr y mae swmp y deunydd yn ei osod ar ffordd pobl sy'n awyddus i gwmpasu storïau'r hanes,

25. ceisiais lunio gwaith a fyddai'n ddifyr i'r rhai sy'n dymuno darllen, yn hwylus i'r rhai sy'n mwynhau dysgu ar eu cof, ac yn fuddiol i bawb sy'n digwydd taro arno.

26. I mi sydd wedi ymgymryd â'r gwaith beichus hwn o grynhoi, gorchwyl anodd yw, yn gofyn chwys a cholli cwsg,

27. megis nad gorchwyl esmwyth yw paratoi gwledd a cheisio boddhau chwaeth pobl eraill. Er hynny, i ennill diolchgarwch y cyhoedd, byddaf yn dwyn y baich yn llawen.

2 Macabeaid 2