2 Macabeaid 15:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yn ei ymffrost di-ben-draw a'i rodres, penderfynodd Nicanor wneud cofeb o'r holl ysbail o fyddin Jwdas.

7. Ond nid oedd pall ar argyhoeddiad Macabeus nac ar ei obaith y câi gymorth gan yr Arglwydd.

8. Daliai i annog ei wŷr i beidio ag ofni ymosodiad y Cenhedloedd, ond i gadw yn eu meddyliau y cymorth a gawsent gynt o'r nef, ac i ddisgwyl y tro hwn hefyd am y fuddugoliaeth yr oedd yr Hollalluog am ei rhoi iddynt.

9. A thrwy eu calonogi â geiriau o'r gyfraith a'r proffwydi, a'u hatgoffa hefyd am y campau yr oeddent wedi eu cyflawni, fe'u cafodd i gyflwr mwy brwd.

10. Ac wedi deffro eu hysbryd, fe'u calonogodd trwy ddangos yn ogystal ffalster y Cenhedloedd a'u hanffyddlondeb i'w llwon.

2 Macabeaid 15