2 Macabeaid 15:20-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yn awr yr oedd pawb yn disgwyl y dyfarniad a geid; yr oedd y gelyn eisoes wedi ymgasglu, a'u byddin wedi ei threfnu'n rhengoedd, yr eliffantod wedi eu gosod mewn safle manteisiol, a'r gwŷr meirch yn eu lle ar yr asgell.

21. Pan welodd Macabeus y lluoedd o'i flaen, a'r amrywiaeth o arfau a ddarparwyd iddynt, a ffyrnigrwydd yr eliffantod, estynnodd ei ddwylo tua'r nef a galw ar yr Arglwydd, gwneuthurwr rhyfeddodau; oherwydd gwyddai nad grym arfau, ond dyfarniad yr Arglwydd ei hun sy'n sicrhau'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n ei haeddu.

22. A galwodd arno â'r geiriau hyn: “Tydi Benarglwydd, anfonaist dy angel at Heseceia brenin Jwda, a lladdodd ef hyd at gant wyth deg a phump o filoedd o lu Senacherib.

23. Yr awr hon hefyd, Benarglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaenau i daenu arswyd a braw;

24. bydded i'th fraich nerthol daro i lawr y cablwyr hyn sy'n ymosod ar dy bobl sanctaidd.” Ac â'r geiriau hynny fe dawodd.

25. Dechreuodd Nicanor a'i fyddin symud yn eu blaenau gyda sain utgyrn a chaneuon rhyfel.

26. Aeth Jwdas a'i fyddin i'r afael â'r gelyn dan alw ar Dduw a gweddïo.

27. Â'u dwylo yr oeddent yn ymladd, ond yn eu calonnau yr oeddent yn gweddïo ar Dduw; gadawsant yn gelanedd gymaint â phymtheng mil ar hugain, a mawr oedd eu llawenydd o weld Duw yn ei amlygu ei hun fel hyn.

28. Wedi'r brwydro, wrth iddynt ymadael yn eu llawenydd, daethant ar draws Nicanor, yn gorwedd yn farw a'i holl arfwisg amdano.

29. Â bloeddiadau cynhyrfus bendithiasant y Penarglwydd yn eu mamiaith.

30. A dyma'r gŵr a oedd wedi ymladd yn gyson yn y rheng flaenaf, gorff ac enaid, dros ei gyd-ddinasyddion, ac a oedd wedi cadw trwy'r blynyddoedd gariad ei ieuenctid tuag at ei genedl, yn gorchymyn iddynt dorri pen Nicanor i ffwrdd, a hefyd ei fraich gyfan, a'u dwyn i Jerwsalem.

31. Wedi cyrraedd yno, cynullodd ei gyd-genedl ynghyd, a chan osod yr offeiriaid gerbron yr allor, anfonodd am y garsiwn o gaer y ddinas.

32. Dangosodd iddynt ben y Nicanor halogedig hwnnw, a braich y cablwr hwnnw, y fraich yr oedd yn ei ymffrost wedi ei hestyn yn erbyn teml yr Hollalluog.

33. Torrodd allan dafod Nicanor, y dyn annuwiol hwnnw, a dywedodd ei fod am ei roi i'r adar fesul tamaid, a chrogi gwobr ei ynfydrwydd gyferbyn â'r cysegr.

34. Yna cododd pawb eu lleisiau tua'r nef i fendithio'r Arglwydd am iddo ei amlygu ei hun, gan ddweud, “Bendigedig fyddo'r hwn a gadwodd ei fangre'i hun yn ddihalog.”

35. Clymodd ben Nicanor wrth fur y gaer, yn arwydd eglur a gweladwy gan bawb o gymorth yr Arglwydd.

36. Trwy bleidlais gyhoeddus penderfynwyd yn unfrydol beidio ar unrhyw gyfrif â gadael i'r dydd hwn fod heb ei goffâd, ond cadw gŵyl ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis—Adar yn yr iaith Aramaeg—un dydd cyn Gŵyl Mordecai.

2 Macabeaid 15