2 Macabeaid 15:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ond yr oedd yn ei fyddin Iddewon a oedd wedi eu gorfodi i'w ganlyn, a dywedodd y rhain wrtho, “Paid ar unrhyw gyfrif â chyflawni'r fath laddfa greulon ac anwar, ond anrhydedda'r dydd y rhoddwyd arno barch arbennig ynghyd â sancteiddrwydd yr Un sy'n gweld pob peth.”

3. Ond dyma'r dyn hwn a drwythwyd mewn pechod yn gofyn ai yn y nef yr oedd y Penarglwydd oedd wedi gorchymyn cadw dydd y Saboth.

4. Atebasant hwythau yn groyw, “Ie yn wir, hwnnw sydd yn y nef, yr Arglwydd byw, yw'r Penarglwydd a ordeiniodd barchu'r seithfed dydd.”

5. “A myfi,” meddai yntau, “yw'r penarglwydd ar y ddaear, sy'n gorchymyn cymryd arfau a chyflawni dyletswyddau i'r brenin.” Er hynny, ni lwyddodd i gyflawni ei fwriad anfad.

6. Yn ei ymffrost di-ben-draw a'i rodres, penderfynodd Nicanor wneud cofeb o'r holl ysbail o fyddin Jwdas.

7. Ond nid oedd pall ar argyhoeddiad Macabeus nac ar ei obaith y câi gymorth gan yr Arglwydd.

8. Daliai i annog ei wŷr i beidio ag ofni ymosodiad y Cenhedloedd, ond i gadw yn eu meddyliau y cymorth a gawsent gynt o'r nef, ac i ddisgwyl y tro hwn hefyd am y fuddugoliaeth yr oedd yr Hollalluog am ei rhoi iddynt.

9. A thrwy eu calonogi â geiriau o'r gyfraith a'r proffwydi, a'u hatgoffa hefyd am y campau yr oeddent wedi eu cyflawni, fe'u cafodd i gyflwr mwy brwd.

10. Ac wedi deffro eu hysbryd, fe'u calonogodd trwy ddangos yn ogystal ffalster y Cenhedloedd a'u hanffyddlondeb i'w llwon.

11. Arfogodd bob un ohonynt, nid â diogelwch tarianau a gwaywffyn, ond â'r calondid sydd mewn geiriau dewr; ac fe'u llonnodd i gyd trwy adrodd breuddwyd gwbl argyhoeddiadol a gawsai, math o weledigaeth ddilys.

2 Macabeaid 15