10. Ac wedi deffro eu hysbryd, fe'u calonogodd trwy ddangos yn ogystal ffalster y Cenhedloedd a'u hanffyddlondeb i'w llwon.
11. Arfogodd bob un ohonynt, nid â diogelwch tarianau a gwaywffyn, ond â'r calondid sydd mewn geiriau dewr; ac fe'u llonnodd i gyd trwy adrodd breuddwyd gwbl argyhoeddiadol a gawsai, math o weledigaeth ddilys.
12. Dyma'r profiad a gafodd: gwelodd Onias yr archoffeiriad gynt, dyn da a rhinweddol, gwylaidd ei ffordd, addfwyn ei gymeriad, gweddus ei air, dyn a oedd o'i blentyndod wedi ymarfer yn ddi-nam bopeth a berthyn i rinwedd. Gwelodd hwn yn estyn ei ddwylo ac yn gweddïo dros holl gorff yr Iddewon.
13. Wedyn yn yr un modd fe ymddangosodd dyn o oedran ac urddas nodedig, yn meddu ar ryw awdurdod rhyfeddol a mawreddog iawn.
14. Ac meddai Onias, “Dyma ddyn sy'n caru ei frodyr, dyn sy'n gweddïo llawer dros y bobl a'r ddinas sanctaidd. Jeremeia, proffwyd Duw, yw ef.”
15. Estynnodd Jeremeia ei law dde a chyflwyno i Jwdas gleddyf aur, ac wrth ei roi cyfarchodd ef fel hyn:
16. “Cymer y cleddyf sanctaidd yn rhodd gan Dduw, iti ddarnio'r gelyn yn gandryll ag ef.”
17. Codwyd eu calon gan araith odidog Jwdas. Yr oedd ynddi rym i symbylu eu dewrder ac i wroli ysbryd y dynion ifainc. Penderfynasant beidio â chynnal ymgyrch faith, ond ymosod yn deilwng o'u tras ac ymladd law wrth law â'u holl wroldeb nes dwyn yr ymrafael i ben; oherwydd yr oedd y ddinas, y mannau sanctaidd a'r deml mewn perygl.
18. Eilbeth ganddynt oedd eu hofn am eu gwragedd a'u plant, a hefyd am eu brodyr a'u perthnasau; yr oedd eu hofn mwyaf a blaenaf am y deml gysegredig.
19. Nid oedd ing y rheini a adawyd yn y ddinas yn ddim llai, yng nghynnwrf eu pryder am frwydr ar faes agored.
20. Yn awr yr oedd pawb yn disgwyl y dyfarniad a geid; yr oedd y gelyn eisoes wedi ymgasglu, a'u byddin wedi ei threfnu'n rhengoedd, yr eliffantod wedi eu gosod mewn safle manteisiol, a'r gwŷr meirch yn eu lle ar yr asgell.
21. Pan welodd Macabeus y lluoedd o'i flaen, a'r amrywiaeth o arfau a ddarparwyd iddynt, a ffyrnigrwydd yr eliffantod, estynnodd ei ddwylo tua'r nef a galw ar yr Arglwydd, gwneuthurwr rhyfeddodau; oherwydd gwyddai nad grym arfau, ond dyfarniad yr Arglwydd ei hun sy'n sicrhau'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n ei haeddu.
22. A galwodd arno â'r geiriau hyn: “Tydi Benarglwydd, anfonaist dy angel at Heseceia brenin Jwda, a lladdodd ef hyd at gant wyth deg a phump o filoedd o lu Senacherib.
23. Yr awr hon hefyd, Benarglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaenau i daenu arswyd a braw;
24. bydded i'th fraich nerthol daro i lawr y cablwyr hyn sy'n ymosod ar dy bobl sanctaidd.” Ac â'r geiriau hynny fe dawodd.
25. Dechreuodd Nicanor a'i fyddin symud yn eu blaenau gyda sain utgyrn a chaneuon rhyfel.
26. Aeth Jwdas a'i fyddin i'r afael â'r gelyn dan alw ar Dduw a gweddïo.
27. Â'u dwylo yr oeddent yn ymladd, ond yn eu calonnau yr oeddent yn gweddïo ar Dduw; gadawsant yn gelanedd gymaint â phymtheng mil ar hugain, a mawr oedd eu llawenydd o weld Duw yn ei amlygu ei hun fel hyn.
28. Wedi'r brwydro, wrth iddynt ymadael yn eu llawenydd, daethant ar draws Nicanor, yn gorwedd yn farw a'i holl arfwisg amdano.
29. Â bloeddiadau cynhyrfus bendithiasant y Penarglwydd yn eu mamiaith.
30. A dyma'r gŵr a oedd wedi ymladd yn gyson yn y rheng flaenaf, gorff ac enaid, dros ei gyd-ddinasyddion, ac a oedd wedi cadw trwy'r blynyddoedd gariad ei ieuenctid tuag at ei genedl, yn gorchymyn iddynt dorri pen Nicanor i ffwrdd, a hefyd ei fraich gyfan, a'u dwyn i Jerwsalem.