8. yn gyntaf, fel un sy'n wir awyddus i amddiffyn hawliau'r brenin, ac yn ail, fel un sy'n amcanu at les ei gyd-ddinasyddion; oherwydd o ganlyniad i fyrbwylltra'r rheini y cyfeiriais atynt y mae ein hil gyfan yn dioddef yn enbyd.
9. Ystyria dithau, O frenin, bob un o'r pethau hyn yn fanwl, a gwna ddarpariaeth ar gyfer ein gwlad a'n hil warchaeëdig, yn unol â'r caredigrwydd a'r hynawsedd sydd ynot tuag at bawb;
10. oherwydd tra bydd Jwdas ar dir y byw, ni all fod heddwch yn y deyrnas.”
11. Wedi hyn o araith gan y dyn hwnnw, buan iawn y llwyddodd y Cyfeillion eraill, a oedd yn elynion i achos Jwdas, i chwythu dicter Demetrius yn wenfflam.
12. Ar ei union dewisodd Nicanor, cyn-gapten catrawd yr eliffantod, a'i benodi'n llywodraethwr Jwdea; anfonodd ef ymaith
13. dan orchymyn i ladd Jwdas ei hun, i wasgaru ei ddilynwyr ac i sefydlu Alcimus yn archoffeiriad yn y deml fawr.
14. Chwyddwyd byddin Nicanor gan heidiau o ffoaduriaid cenhedlig o Jwdea a oedd wedi dianc rhag Jwdas; tybient mai elw iddynt hwy fyddai trychinebau a thrallodion yr Iddewon.
15. Pan glywodd yr Iddewon am ymgyrch Nicanor ac ymosodiad y Cenhedloedd, aethant ati i daenellu pridd ar eu pennau eu hunain ac i ymbil ar yr Un a sefydlodd ei bobl am byth a sydd bob amser yn barod i'w amlygu ei hun er cymorth i'w genedl etholedig.
16. Ar orchymyn eu harweinydd cychwynasant oddi yno ar eu hunion a tharo ar y gelyn ger pentref Adasa.