35. “Ti Arglwydd, nad wyt yn amddifad o ddim, gwelaist yn dda osod teml dy breswylfod yn ein plith ni;
36. yr awr hon hefyd, Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw'n ddihalog am byth y tŷ hwn a burwyd mor ddiweddar.”
37. Yn awr, dygwyd cyhuddiadau at Nicanor yn erbyn gŵr o'r enw Rasis, un o henuriaid Jerwsalem. Yr oedd yn wladgarwr, dyn â gair da iawn iddo ac a elwid yn “Dad yr Iddewon”, ar gyfrif ei gefnogaeth iddynt.
38. Oherwydd yn nyddiau cynnar y gwrthryfel yr oedd wedi cael ei gyhuddo o arfer Iddewiaeth, ac yr oedd wedi peryglu ei gorff a'i einioes trwy ei sêl ddiflino dros y grefydd honno.
39. Yn ei awydd i wneud ei elyniaeth tuag at yr Iddewon yn amlwg, anfonodd Nicanor dros bum cant o filwyr i'w gymryd i'r ddalfa;
40. oherwydd credai y byddai trwy ei gymryd yno yn taro ergyd galed yn erbyn yr Iddewon.
41. Yr oedd y fyddin hon ar fedr cipio'r tŵr ac wrthi'n ceisio gwthio'i ffordd trwy'r porth allanol, gan alw am ffaglau i danio'r drysau. Gan ei fod wedi ei amgylchynu, trodd Rasis ei gleddyf arno'i hun;