28. Parodd y neges hon ddryswch i Nicanor; yr oedd yn wrthun ganddo ddiddymu cytundeb â dyn oedd heb wneud unrhyw gamwedd.
29. Ond gan na allai weithredu'n groes i'r brenin, gwyliodd am gyfle i gyflawni'r cyfarwyddyd trwy ystryw.
30. Ond sylwodd Macabeus fod Nicanor yn fwy garw yn ei ymwneud ag ef a bod ei agwedd arferol yn llai cwrtais, a chan farnu nad oedd y garwedd hwn yn argoeli'n dda, casglodd nifer helaeth o'i ddilynwyr ynghyd ac ymguddio o olwg Nicanor.
31. Pan ddarganfu hwnnw fod Jwdas wedi cael y blaen yn deg arno, aeth i'r deml fawr a sanctaidd ar yr awr pan oedd yr offeiriaid yn offrymu'r aberthau arferol, a gorchymyn iddynt drosglwyddo'r dyn iddo.
32. Pan aethant hwy ar eu llw na wyddent lle'n y byd yr oedd y dyn a geisiai,
33. estynnodd ef ei law dde tua'r deml a thyngodd fel hyn: “Os na throsglwyddwch Jwdas imi yn garcharor, fe dynnaf i'r llawr y cysegr yma o'r eiddo eich Duw, dymchwelaf yr allor a chodaf yn y man hwn deml i Dionysus a fydd yn tynnu llygaid pawb.”
34. Ac â'r geiriau hynny aeth ymaith; ond estynnodd yr offeiriaid eu dwylo i'r nef a galw â'r geiriau hyn ar yr Un sydd bob amser yn brwydro dros ein cenedl:
35. “Ti Arglwydd, nad wyt yn amddifad o ddim, gwelaist yn dda osod teml dy breswylfod yn ein plith ni;
36. yr awr hon hefyd, Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw'n ddihalog am byth y tŷ hwn a burwyd mor ddiweddar.”
37. Yn awr, dygwyd cyhuddiadau at Nicanor yn erbyn gŵr o'r enw Rasis, un o henuriaid Jerwsalem. Yr oedd yn wladgarwr, dyn â gair da iawn iddo ac a elwid yn “Dad yr Iddewon”, ar gyfrif ei gefnogaeth iddynt.
38. Oherwydd yn nyddiau cynnar y gwrthryfel yr oedd wedi cael ei gyhuddo o arfer Iddewiaeth, ac yr oedd wedi peryglu ei gorff a'i einioes trwy ei sêl ddiflino dros y grefydd honno.
39. Yn ei awydd i wneud ei elyniaeth tuag at yr Iddewon yn amlwg, anfonodd Nicanor dros bum cant o filwyr i'w gymryd i'r ddalfa;