2 Macabeaid 14:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Cadwodd Jwdas wrth ei ochr yr holl amser; yr oedd wedi cymryd at y dyn.

25. Anogodd ef i briodi ac i fagu plant; priododd yntau, cafodd lonyddwch a phrofi bywyd cyffredin.

26. Pan welodd Alcimus y cyfeillgarwch oedd rhyngddynt, cymerodd gopi o'r cytundeb a wnaethpwyd, a mynd at Demetrius a haeru bod bwriadau Nicanor yn groes i rai'r llywodraeth; oherwydd yr oedd wedi penodi Jwdas yn ddarpar-Gyfaill, ac yntau'n gynllwyniwr yn erbyn y deyrnas.

2 Macabeaid 14