2 Macabeaid 14:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ar orchymyn eu harweinydd cychwynasant oddi yno ar eu hunion a tharo ar y gelyn ger pentref Adasa.

17. Simon, brawd Jwdas, oedd yr un a aeth i'r afael â Nicanor, ond o achos dyfodiad disymwth y gelyn fe gollodd dir o ryw gymaint;

18. er hynny, pan glywodd Nicanor am wrhydri Jwdas a'i wŷr, ac am eu dewrder wrth frwydro dros eu gwlad, dechreuodd ofni nad tywallt gwaed oedd y ffordd i ddwyn yr ymrafael i ben.

19. Gan hynny, anfonodd Posidonius, Theodotus a Matathias i roi a derbyn deheulaw mewn heddwch.

20. Fe astudiwyd eu cynigion yn fanwl, ac o'u hysbysu i'r bobl gan eu harweinydd a chael pleidlais unfrydol, derbyniwyd y cytundeb.

21. Yna pennwyd dydd i'r arweinwyr gyfarfod ar wahân; daeth cerbyd yn ei flaen o'r naill ochr ac o'r llall, a gosodwyd seddau.

22. Yr oedd Jwdas wedi gosod gwŷr arfog yn barod yn y mannau manteisiol, rhag ofn rhyw ddichell sydyn gan y gelyn; ond cawsant drafodaeth bwrpasol.

23. Bu Nicanor yn aros yn Jerwsalem, ac ni wnaeth ddim o'i le; yn wir, fe ollyngodd ymaith yr heidiau o bobl oedd wedi ymgynnull ato.

24. Cadwodd Jwdas wrth ei ochr yr holl amser; yr oedd wedi cymryd at y dyn.

25. Anogodd ef i briodi ac i fagu plant; priododd yntau, cafodd lonyddwch a phrofi bywyd cyffredin.

2 Macabeaid 14