2 Macabeaid 14:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Pan glywodd yr Iddewon am ymgyrch Nicanor ac ymosodiad y Cenhedloedd, aethant ati i daenellu pridd ar eu pennau eu hunain ac i ymbil ar yr Un a sefydlodd ei bobl am byth a sydd bob amser yn barod i'w amlygu ei hun er cymorth i'w genedl etholedig.

16. Ar orchymyn eu harweinydd cychwynasant oddi yno ar eu hunion a tharo ar y gelyn ger pentref Adasa.

17. Simon, brawd Jwdas, oedd yr un a aeth i'r afael â Nicanor, ond o achos dyfodiad disymwth y gelyn fe gollodd dir o ryw gymaint;

18. er hynny, pan glywodd Nicanor am wrhydri Jwdas a'i wŷr, ac am eu dewrder wrth frwydro dros eu gwlad, dechreuodd ofni nad tywallt gwaed oedd y ffordd i ddwyn yr ymrafael i ben.

19. Gan hynny, anfonodd Posidonius, Theodotus a Matathias i roi a derbyn deheulaw mewn heddwch.

2 Macabeaid 14