1. Ymhen ysbaid o dair blynedd, daeth yn hysbys i Jwdas a'i wŷr fod Demetrius fab Selewcus wedi hwylio i mewn i borthladd Tripolis gyda byddin gref a llynges,
2. a'i fod wedi meddiannu'r wlad ar ôl lladd Antiochus a'i ddirprwy Lysias.
3. Yn awr yr oedd dyn o'r enw Alcimus, a fu gynt yn archoffeiriad ond a'i halogodd ei hun o'i wirfodd yn amser y gwrthryfel. Sylweddolodd hwn nad oedd ffordd yn y byd iddo'i achub ei hun na chyrchu'r allor sanctaidd bellach,
4. a thua'r flwyddyn 151 aeth at y Brenin Demetrius, gan ddwyn iddo goron aur a changen palmwydden, yn ogystal â rhai o'r canghennau olewydd arferol o'r deml. Bu'n ddistaw y dydd hwnnw,
5. ond cafodd gyfle i hybu ei amcan ynfyd ei hun pan alwyd ef gerbron ei gyngor gan Demetrius a'i holi am agwedd a bwriad yr Iddewon. Ei ateb oedd:
6. “Y mae'r Iddewon hynny a elwir yn Hasideaid, sydd dan arweiniad Jwdas Macabeus, yn porthi ysbryd rhyfel a therfysg ac yn gwrthod gadael i'r deyrnas gael llonyddwch.
7. O ganlyniad, a minnau wedi f'amddifadu o fraint fy nhras (yr wyf yn cyfeirio, wrth gwrs, at yr archoffeiriadaeth), yr wyf wedi dod yma'n awr,
8. yn gyntaf, fel un sy'n wir awyddus i amddiffyn hawliau'r brenin, ac yn ail, fel un sy'n amcanu at les ei gyd-ddinasyddion; oherwydd o ganlyniad i fyrbwylltra'r rheini y cyfeiriais atynt y mae ein hil gyfan yn dioddef yn enbyd.
9. Ystyria dithau, O frenin, bob un o'r pethau hyn yn fanwl, a gwna ddarpariaeth ar gyfer ein gwlad a'n hil warchaeëdig, yn unol â'r caredigrwydd a'r hynawsedd sydd ynot tuag at bawb;
10. oherwydd tra bydd Jwdas ar dir y byw, ni all fod heddwch yn y deyrnas.”
11. Wedi hyn o araith gan y dyn hwnnw, buan iawn y llwyddodd y Cyfeillion eraill, a oedd yn elynion i achos Jwdas, i chwythu dicter Demetrius yn wenfflam.
12. Ar ei union dewisodd Nicanor, cyn-gapten catrawd yr eliffantod, a'i benodi'n llywodraethwr Jwdea; anfonodd ef ymaith
13. dan orchymyn i ladd Jwdas ei hun, i wasgaru ei ddilynwyr ac i sefydlu Alcimus yn archoffeiriad yn y deml fawr.
14. Chwyddwyd byddin Nicanor gan heidiau o ffoaduriaid cenhedlig o Jwdea a oedd wedi dianc rhag Jwdas; tybient mai elw iddynt hwy fyddai trychinebau a thrallodion yr Iddewon.