8. a hynny'n hollol gyfiawn; oherwydd am iddo bechu llawer ynghylch yr allor y mae ei thân a hyd yn oed ei lludw yn ddihalog, mewn lludw y daeth i'w dranc ei hun.
9. Aeth y brenin yn ei flaen yn llawn traha barbaraidd, gan fwriadu dangos i'r Iddewon bethau gwaeth na dim a ddigwyddodd yn amser ei dad.
10. Pan hysbyswyd Jwdas o hyn, gorchmynnodd i'r bobl alw ar yr Arglwydd ddydd a nos ar iddo estyn ei gymorth, yn awr yn anad untro arall, i rai oedd ar gael eu hamddifadu o'u cyfraith, o'u gwlad ac o'u teml sanctaidd;
11. ac ar iddo beidio â gadael i'w bobl, ar ôl yr ysbaid a gawsai yn ddiweddar i gael ei hanadl ati, syrthio dan fawd y Cenhedloedd cableddus.
12. Yn unfryd ac ynghyd aethant ati i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan wylofain ac ymprydio a gorwedd ar eu hyd am dridiau'n ddi-ball; ac yna calonogodd Jwdas hwy a'u cymell i sefyll gydag ef.
13. Ar ôl cydymgynghori ar ei ben ei hun â'r henuriaid, penderfynodd beidio ag aros nes i fyddin y brenin ddod i mewn i Jwdea a meddiannu'r ddinas, ond mynd allan yn hytrach a dwyn yr ymrafael i ben trwy gymorth Duw.