2 Macabeaid 13:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yno y maent yn codi ac yn gwthio i ddinistr unrhyw un a gafwyd yn euog o ysbeilio temlau neu o ryw ddrwgweithred ysgeler arall.

7. Dyna'r dynged a oddiweddodd Menelaus, torrwr y gyfraith; bu farw ond ni chafodd fedd,

8. a hynny'n hollol gyfiawn; oherwydd am iddo bechu llawer ynghylch yr allor y mae ei thân a hyd yn oed ei lludw yn ddihalog, mewn lludw y daeth i'w dranc ei hun.

9. Aeth y brenin yn ei flaen yn llawn traha barbaraidd, gan fwriadu dangos i'r Iddewon bethau gwaeth na dim a ddigwyddodd yn amser ei dad.

10. Pan hysbyswyd Jwdas o hyn, gorchmynnodd i'r bobl alw ar yr Arglwydd ddydd a nos ar iddo estyn ei gymorth, yn awr yn anad untro arall, i rai oedd ar gael eu hamddifadu o'u cyfraith, o'u gwlad ac o'u teml sanctaidd;

2 Macabeaid 13