2 Macabeaid 13:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ar doriad dydd yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau, trwy gymorth ac amddiffyniad yr Arglwydd.

18. Wedi'r profiad hwn o feiddgarwch yr Iddewon, rhoes y brenin gynnig ar gymryd eu hamddiffynfeydd trwy ystrywiau.

19. Aeth allan yn erbyn Bethswra, un o gaerau cryfaf yr Iddewon, ac fe'i bwriwyd yn ôl; ymosododd, ac fe'i trechwyd;

20. derbyniodd y garsiwn eu holl anghenion gan Jwdas.

21. Ond bradychodd Rhodocus, un o filwyr yr Iddewon, eu cyfrinachau i'r gelyn; chwiliwyd amdano, ei ddal a'i roi o'r neilltu.

22. Am yr ail waith bu trafod rhwng y brenin ac amddiffynwyr Bethswra; rhoddodd a derbyniodd ddeheulaw, ac aeth ymaith.

23. Ymosododd ar Jwdas a'i wŷr, a chael ei drechu. Daeth y newydd ato fod Philip, y dyn a adawsai yn Antiochia yn brif weinidog y llywodraeth, wedi gwrthryfela. Mewn dryswch llwyr galwodd yr Iddewon ato, ildiodd i'w gofynion, a mynd ar ei lw i barchu pob hawl gyfiawn; gwnaeth gytundeb â hwy ac offrymu aberth; anrhydeddodd y deml a chyflwyno rhoddion hael i'r fangre.

24. Derbyniodd Macabeus i'w bresenoldeb a gadael Hegemonides yn llywodraethwr o Ptolemais hyd at Gerra.

25. Yna daeth i Ptolemais. Yr oedd y cyfamod wedi digio trigolion y dref honno, ac yn eu cynnwrf yr oeddent o blaid dirymu'r amodau.

26. Dringodd Lysias i'r areithfa, amddiffynnodd y weithred gystal ag y medrai, darbwyllodd, lliniarodd, enillodd y bobl o'i blaid, ac aeth ymaith i Antiochia. Fel hyn y bu cwrs ymgyrch ac ymgiliad y brenin.

2 Macabeaid 13