14. A chan ymddiried y dyfarniad i Greawdwr y bydysawd, anogodd ei wŷr i ymdrechu'n wrol hyd angau dros y cyfreithiau, y deml, y ddinas, eu gwlad a'u ffordd o fyw. Gwersyllodd yn ardal Modin.
15. Rhoddodd yr arwyddair “Duw biau'r fuddugoliaeth” i'w wŷr, ac wedi dethol y dynion ifainc dewraf, ymosododd liw nos ar bencadlys y brenin a lladd hyd at ddwy fil o'r milwyr yn y gwersyll. Yn ogystal, trywanodd i farwolaeth yr eliffant blaenaf, ynghyd â'i ofalwr.
16. Erbyn y diwedd yr oeddent wedi llenwi'r gwersyll â braw a chynnwrf, ac aethant oddi yno yn fuddugoliaethus.
17. Ar doriad dydd yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau, trwy gymorth ac amddiffyniad yr Arglwydd.
18. Wedi'r profiad hwn o feiddgarwch yr Iddewon, rhoes y brenin gynnig ar gymryd eu hamddiffynfeydd trwy ystrywiau.
19. Aeth allan yn erbyn Bethswra, un o gaerau cryfaf yr Iddewon, ac fe'i bwriwyd yn ôl; ymosododd, ac fe'i trechwyd;
20. derbyniodd y garsiwn eu holl anghenion gan Jwdas.
21. Ond bradychodd Rhodocus, un o filwyr yr Iddewon, eu cyfrinachau i'r gelyn; chwiliwyd amdano, ei ddal a'i roi o'r neilltu.