1. Yn y flwyddyn 149 daeth yn hysbys i Jwdas a'i wŷr fod Antiochus Ewpator yn dod gyda'i luoedd i ymosod ar Jwdea,
2. a bod Lysias, ei ddirprwy a phrif weinidog ei lywodraeth, gydag ef; yr oedd gan hwn yn ychwaneg fyddin Roegaidd yn cynnwys un cant ar ddeg o filoedd o wŷr traed, pum mil a thri chant o wŷr meirch, dau eliffant ar hugain a thri chant o gerbydau wedi eu harfogi â phladuriau.
3. Ymunodd Menelaus hefyd â hwy, ac aeth ati yn dra ffuantus i gymell Antiochus i fynd yn ei flaen; ond yr oedd ei fryd nid ar achub ei wlad ond ar gael ei gynnal yn ei swydd.
4. Ond cyffrôdd Brenin y brenhinoedd ddicter Antiochus yn erbyn y gŵr pechadurus hwnnw, ac wedi i Lysias ddod â thystiolaeth i ddangos mai ef oedd achos yr holl drafferthion, gorchmynnodd y brenin ei gymryd i Berea a'i ddienyddio yn null arferol y dref honno.
5. Y mae yno dŵr tua thri medr ar hugain o uchder, yn llawn lludw; ar y tŵr hwn yr oedd dyfais ar lun cylch yn disgyn ar ei ben o bob tu i mewn i'r lludw.