2 Macabeaid 12:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ond o gael pyrth y dref wedi eu cloi, aeth oddi yno, gan fwriadu dychwelyd a thynnu o'r gwraidd holl gymuned ddinesig Jopa.

8. A phan glywodd fod pobl Jamnia yn dymuno gwneud yr un peth i'r Iddewon oedd yn byw yn eu plith,

9. fe ymosododd arnynt hwythau liw nos a gosod eu porthladd a'u llongau ar dân, fel y gwelwyd llewyrch y fflamau o Jerwsalem, pellter o bedwar cilomedr a deugain.

10. Wedi iddynt gilio tuag un cilomedr a hanner oddi yno yn eu cyrch yn erbyn Timotheus, ymosododd pum mil neu fwy o Arabiaid arno, ynghyd â phum cant o wŷr meirch.

11. Bu brwydr galed, ond trwy gymorth Duw, Jwdas a'i wŷr a orfu. Erfyniodd y nomadiaid gorchfygedig ar Jwdas iddo gynnig ei law iddynt mewn heddwch, gan addo rhoi da byw i'w bobl ef, a'u helpu mewn ffyrdd eraill.

2 Macabeaid 12