2 Macabeaid 12:43-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Wedi gwneud casgliad o ryw ddwy fil o ddrachmâu o arian trwy gyfraniad gan bob un o'i wŷr, anfonodd y cwbl i Jerwsalem er mwyn offrymu aberth dros bechod—gweithred hardd ac anrhydeddus gan un a wnâi gyfrif o'r atgyfodiad;

44. oherwydd os nad oedd yn disgwyl atgyfodiad y rhai a gwympodd, peth afraid a diystyr fyddai gweddïo dros gyrff meirw;

45. ond os oedd â'i olwg ar y wobr ddigymar a gedwir ar gyfer y rhai sy'n huno mewn duwioldeb, yr oedd ei fwriad yn sanctaidd a duwiol; a dyna pam yr offrymodd aberth puredigaeth dros y meirw fel y caent eu rhyddhau o'u pechod.

2 Macabeaid 12