2 Macabeaid 12:23-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Aeth Jwdas ati i erlid y drwgweithredwyr hynny'n galetach nag erioed, a'u gwanu'n ddi-ball, nes lladd hyd at ddeng mil ar hugain ohonynt.

24. Cwympodd Timotheus ei hun i afael gwŷr Dositheus a Sosipater, ond ymbiliodd yn ystrywgar iawn am gael ei arbed a'i ollwng yn rhydd am y rheswm ei fod yn dal rhieni llawer ohonynt, a brodyr rhai, ac na fyddai cyfrif amdanynt.

25. Gan iddo ymrwymo'n ddifrifol drosodd a thro yr anfonai hwy'n ôl yn ddianaf, fe'u gollyngasant yn rhydd er mwyn achub eu brodyr.

26. Aeth Jwdas yn ei flaen i ymosod ar Carnaim a theml Atargatis, a gwnaeth laddfa ar bum mil ar hugain o bobl.

27. Wedi troi'r rhain yn eu hôl a'u difa, arweiniodd ei fyddin yn erbyn Effron, tref gaerog lle trigai Lysias ynghyd â lluoedd o bobl o bob hil. Ond o flaen y muriau yr oedd amddiffynwyr glew, dynion ifainc cryfion, a thu mewn yr oedd cyflenwad da o beiriannau rhyfel a thaflegrau.

28. Wedi galw ar y Penarglwydd sy'n chwilfriwio â'i rym holl nerth y gelyn, cawsant y trechaf ar y dref, a gadael yn gelanedd hyd at bum mil ar hugain o'r amddiffynwyr.

29. Oddi yno aethant i ymosod ar Scythopolis, tref sy'n gan cilomedr ac un ar ddeg o Jerwsalem.

30. Ond tystiodd yr Iddewon oedd wedi ymsefydlu yno fod pobl Scythopolis yn llawn ewyllys da tuag atynt, a'u bod yn eu trin yn garedig yn nyddiau adfyd.

31. Wedi diolch iddynt a'u hannog yn ogystal i fod yn gyfeillgar tuag at y genedl yn y dyfodol hefyd, dychwelsant i Jerwsalem ychydig cyn Gŵyl yr Wythnosau.

32. Wedi Gŵyl y Pentecost, fel y gelwir hi, gwnaethant gyrch ar Gorgias, llywodraethwr Idwmea.

33. Daeth ef i'w cyfarfod gyda thair mil o wŷr traed a phedwar cant o wŷr meirch.

34. Cwympodd nifer bychan o'r Iddewon yn rhengoedd y frwydr.

35. Ond yr oedd dyn o'r enw Dositheus, un o wŷr Bacenor, march-filwr cryf, wedi cael gafael yn Gorgias; yr oedd yn ei ddal gerfydd ei fantell ac yn ei lusgo trwy nerth braich yn y bwriad o gymryd y dyn melltigedig hwnnw'n garcharor. Ond rhuthrodd un o'r gwŷr meirch o Thracia arno a thorri ei fraich gyfan i ffwrdd, a dihangodd Gorgias i Marisa.

36. Gan fod Esdris a'i wŷr wedi bod yn ymladd ers amser maith yn diffygio, galwodd Jwdas ar yr Arglwydd i ddangos yn amlwg ei fod yn ymladd gyda hwy ac yn eu tywys yn y rhyfel.

37. A chan dorri allan i floeddio emynau yn ei famiaith, ymosododd yn annisgwyl ar Gorgias a'i wŷr, a'u gyrru ar ffo.

38. Wedi cael trefn ar ei fyddin unwaith eto, aeth Jwdas yn ei flaen nes cyrraedd tref Adulam; a chan fod y seithfed dydd ar eu gwarthaf, fe'u purasant eu hunain yn ôl eu harferiad a chadw'r Saboth yno.

2 Macabeaid 12