1. Wedi gwneud y cytundeb hwn, aeth Lysias ymaith at y brenin, ac aeth yr Iddewon ati i drin y tir.
2. Ond yr oedd rhai o'r llywodraethwyr yn y gwahanol ranbarthau, Timotheus ac Apolonius fab Geneus, a hefyd Hieronymus a Demoffon, yn ogystal â Nicanor, capten y Cypriaid, yn gwrthod gadael iddynt fyw'n dawel a dilyn eu gorchwylion yn heddychlon.
3. A dyma'r anfadwaith annuwiol a gyflawnodd trigolion Jopa: heb unrhyw arwydd o elyniaeth tuag atynt, gwahoddasant yr Iddewon oedd yn byw yn eu plith i fynd, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, i mewn i gychod oedd yn barod ganddynt,
4. yn unol â phleidlais y dref i gyd; a chan eu bod yn awyddus i fyw mewn heddwch fe gydsyniodd yr Iddewon, heb ddrwgdybio dim. Pan oeddent allan ar y môr, fe'u bwriwyd i'r dyfnder, ddau gant neu fwy ohonynt.
5. Pan glywodd Jwdas am y weithred greulon a wnaethpwyd ar ei gyd-Iddewon, rhoddodd ei orchmynion i'w wŷr,
6. ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr cyfiawn, fe ymosododd ar lofruddion ei frodyr. Gosododd eu porthladd ar dân yn ystod y nos a llosgi eu cychod yn ulw, a thrywanu'r rheini oedd wedi ffoi yno am loches.
7. Ond o gael pyrth y dref wedi eu cloi, aeth oddi yno, gan fwriadu dychwelyd a thynnu o'r gwraidd holl gymuned ddinesig Jopa.
8. A phan glywodd fod pobl Jamnia yn dymuno gwneud yr un peth i'r Iddewon oedd yn byw yn eu plith,
9. fe ymosododd arnynt hwythau liw nos a gosod eu porthladd a'u llongau ar dân, fel y gwelwyd llewyrch y fflamau o Jerwsalem, pellter o bedwar cilomedr a deugain.
10. Wedi iddynt gilio tuag un cilomedr a hanner oddi yno yn eu cyrch yn erbyn Timotheus, ymosododd pum mil neu fwy o Arabiaid arno, ynghyd â phum cant o wŷr meirch.
11. Bu brwydr galed, ond trwy gymorth Duw, Jwdas a'i wŷr a orfu. Erfyniodd y nomadiaid gorchfygedig ar Jwdas iddo gynnig ei law iddynt mewn heddwch, gan addo rhoi da byw i'w bobl ef, a'u helpu mewn ffyrdd eraill.
12. Yr oedd Jwdas o'r farn y byddent yn wirioneddol ddefnyddiol mewn llawer ffordd, a chydsyniodd i fyw mewn heddwch â hwy; ac wedi cael cynghrair aethant ymaith i'w pebyll.
13. Ymosododd hefyd ar dref oedd wedi ei chryfhau â phontydd a'i hamddiffyn o boptu â muriau. Yr oedd ei thrigolion yn gymysgedd o bob cenedl, a'i henw oedd Caspin.
14. Yr oedd nerth y muriau a'r stôr o fwydydd oedd ganddynt wedi llenwi'r amddiffynwyr â hyder, a dechreusant ddifrïo a sarhau Jwdas a'i wŷr i'r eithaf; ond yn waeth na hynny, dechreusant gablu ac yngan pethau ffiaidd.