2 Macabeaid 11:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae eich cynrychiolwyr Ioan ac Absalom wedi cyflwyno imi y ddogfen a welwch isod ac wedi ceisio gennyf gymeradwyo'r hyn a fynegwyd ynddi.

18. Yr wyf wedi esbonio i'r brenin bopeth yr oedd yn rhaid ei gyfeirio ato ef; ac y mae ef wedi cydsynio â phopeth hyd y gallai.

19. Gan hynny, os pery eich ewyllys da tuag at y llywodraeth, fe geisiaf finnau hyrwyddo eich buddiannau yn y dyfodol hefyd.

20. Ynglŷn â'r materion hyn a'r manylion pellach: yr wyf wedi gorchymyn i'r dynion hyn a'm cynrychiolwyr innau eu trafod gyda chwi.

2 Macabeaid 11