2 Macabeaid 10:27-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Wedi gorffen eu gweddi, codasant eu harfau a mynd gryn bellter allan o'r ddinas nes dod gyferbyn â'r gelyn, ac ymsefydlu yno.

28. Cyn gynted ag y lledodd haul y bore ei oleuni, aeth y ddwy fyddin i'r afael â'i gilydd. Yr oedd gan yr Iddewon nid yn unig eu dewrder ond nodded yr Arglwydd yn warant o'u llwyddiant a'u buddugoliaeth; ond am y lleill, eu cynddaredd oedd ganddynt hwy i'w harwain yn y drin.

29. Yn anterth y frwydr ymddangosodd i'r gelyn bum dyn ysblennydd yn disgyn o'r nef ar gefn meirch a chanddynt ffrwynau aur. Fe'u gosodasant eu hunain ar flaen yr Iddewon,

30. gan amgylchynu Macabeus a'i gadw'n ddianaf dan gysgod eu harfwisgoedd. Aethant ati i anelu saethau a mellt at y gelyn nes iddynt, o'u drysu a'u dallu, dorri eu rhengoedd mewn anhrefn llwyr.

31. Lladdwyd ugain mil a phum cant, a chwe chant o wŷr meirch.

32. Ffodd Timotheus ei hun i gaer a elwid Gasara, amddiffynfa gref iawn lle'r oedd Chaireas yn ben.

33. Yn llawen am hyn, gwarchaeodd Macabeus a'i wŷr ar yr amddiffynfa am bedwar diwrnod.

34. Yn eu hyder yng nghadernid eu safle, dechreuodd y garsiwn gablu'n eithafol a gweiddi ymadroddion ffiaidd.

35. Ar doriad gwawr y pumed dydd, a'u dicter yn wenfflam o achos y cablu, ymosododd ugain dyn ifanc o fyddin Macabeus yn wrol ar y mur; mewn dicter cynddeiriog torasant i lawr bwy bynnag a gawsant ar eu ffordd.

36. Yn yr un modd dringodd eraill i fyny ac ymosod ar y garsiwn tra oedd sylw'r rheini ar y lleill. Rhoesant y tyrau ar dân a chynnau coelcerthi i losgi'r cablwyr yn fyw. Torrodd eraill y pyrth i lawr, a gollwng gweddill y fyddin i mewn; ac felly fe feddiannwyd y dref.

37. Yr oedd Timotheus wedi ymguddio mewn cronfa ddŵr danddaearol, ac fe'i lladdwyd ef ynghyd â'i frawd Chaireas ac Apoloffanes.

38. Wedi'r gorchestion hyn, bendithiasant ag emynau a gweddïau o ddiolchgarwch yr Arglwydd sy'n gwneud cymwynasau mor fawr ag Israel ac yn rhoi'r fuddugoliaeth iddynt.

2 Macabeaid 10