2 Macabeaid 10:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. a chwalasant yr allorau a godwyd ar y sgwâr gan yr estroniaid, ynghyd â'u llannau cysegredig.

3. Wedi puro'r cysegr codasant allor newydd, ac wedi taro gwreichion o gerrig a chymryd tân oddi wrthynt, offrymasant aberthau ar ôl bwlch o ddwy flynedd; llosgasant arogldarth, a chynnau'r lampau, a gosod allan y bara cysegredig.

4. Wedi gwneud hynny, aethant ar eu hyd ar lawr a gofyn gan yr Arglwydd am i'r fath ddrygau beidio â disgyn arnynt byth eto; ond am iddynt, petaent byth yn pechu, gael eu disgyblu'n gymesur ganddo ef yn hytrach na'u traddodi i ddwylo cenhedloedd cableddus ac anwar.

5. Purwyd y cysegr ar yr un dyddiad ag yr halogwyd ef gynt gan yr estroniaid, sef y pumed dydd ar hugain o'r un mis, mis Cislef,

2 Macabeaid 10