16. Cynhaliodd Macabeus a'i wŷr wasanaeth ymbil, gan ofyn i Dduw ymladd o'u plaid; ac yna rhuthrasant ar gaerau'r Idwmeaid,
17. a thrwy ymosodiadau grymus eu meddiannu. Gyrasant ymaith holl amddiffynwyr y muriau, a lladd y rheini a gawsant ar eu ffordd, hyd at o leiaf ugain mil.
18. Dihangodd naw mil neu fwy i ddwy amddiffynfa gref iawn ag ynddynt bopeth ar gyfer gwrthsefyll gwarchae.
19. Aeth Macabeus ymaith i fannau lle'r oedd ei angen fwyaf, gan adael ar ei ôl Simon a Joseff, ynghyd â Sacheus a'i wŷr, a oedd yn ddigon niferus i warchae ar yr amddiffynfeydd.
20. Ond aeth gwŷr Simon yn ariangar, ac ildio i berswâd arian rhai o'r bobl yn yr amddiffynfeydd; am saith deng mil o ddrachmâu fe adawsant i rai ddianc.
21. Pan ddaeth adroddiad am y digwyddiad at Macabeus, fe gasglodd swyddogion y fyddin ynghyd, a chyhuddo'r dynion hyn o werthu eu brodyr am arian trwy ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn.
22. Ac felly dienyddiodd hwy am eu brad, ac yna goresgyn ar ei union y ddwy amddiffynfa.
23. Yn y frwydr bu llwyddiant ar bopeth oedd dan ei reolaeth, ac fe laddodd yn y ddwy amddiffynfa dros ugain mil o ddynion.
24. Er i Timotheus gael ei drechu o'r blaen gan yr Iddewon, fe gasglodd ynghyd lu enfawr o filwyr o wledydd estron, a nifer mawr o feirch o Asia. Ymosododd gyda'r bwriad o feddiannu Jwdea trwy rym arfau.
25. Wrth iddo nesáu, taenellodd Macabeus a'i wŷr bridd ar eu pennau a chlymu sachlieiniau am eu llwynau i ymbil ar Dduw.
26. Fe'u taflasant eu hunain ar eu hyd ar y llwyfan gerbron yr allor, a gofyn i Dduw o'i drugaredd tuag atynt “fod yn elyn i'w gelynion ac yn wrthwynebwr i'w gwrthwynebwyr”, fel y traethir yn y gyfraith.
27. Wedi gorffen eu gweddi, codasant eu harfau a mynd gryn bellter allan o'r ddinas nes dod gyferbyn â'r gelyn, ac ymsefydlu yno.
28. Cyn gynted ag y lledodd haul y bore ei oleuni, aeth y ddwy fyddin i'r afael â'i gilydd. Yr oedd gan yr Iddewon nid yn unig eu dewrder ond nodded yr Arglwydd yn warant o'u llwyddiant a'u buddugoliaeth; ond am y lleill, eu cynddaredd oedd ganddynt hwy i'w harwain yn y drin.
29. Yn anterth y frwydr ymddangosodd i'r gelyn bum dyn ysblennydd yn disgyn o'r nef ar gefn meirch a chanddynt ffrwynau aur. Fe'u gosodasant eu hunain ar flaen yr Iddewon,
30. gan amgylchynu Macabeus a'i gadw'n ddianaf dan gysgod eu harfwisgoedd. Aethant ati i anelu saethau a mellt at y gelyn nes iddynt, o'u drysu a'u dallu, dorri eu rhengoedd mewn anhrefn llwyr.
31. Lladdwyd ugain mil a phum cant, a chwe chant o wŷr meirch.
32. Ffodd Timotheus ei hun i gaer a elwid Gasara, amddiffynfa gref iawn lle'r oedd Chaireas yn ben.
33. Yn llawen am hyn, gwarchaeodd Macabeus a'i wŷr ar yr amddiffynfa am bedwar diwrnod.
34. Yn eu hyder yng nghadernid eu safle, dechreuodd y garsiwn gablu'n eithafol a gweiddi ymadroddion ffiaidd.
35. Ar doriad gwawr y pumed dydd, a'u dicter yn wenfflam o achos y cablu, ymosododd ugain dyn ifanc o fyddin Macabeus yn wrol ar y mur; mewn dicter cynddeiriog torasant i lawr bwy bynnag a gawsant ar eu ffordd.