2 Macabeaid 1:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. gan ateb eich deisyfiadau ac ymgymodi â chwi a pheidio â'ch gadael yn amddifad yn amser adfyd.

6. Yr awr hon, yn y lle hwn, yr ydym yn gweddïo drosoch chwi.

7. Yr ydym ni'r Iddewon eisoes wedi ysgrifennu atoch yn y flwyddyn 169, pan oedd Demetrius yn teyrnasu, yng nghyfnod anterth yr erledigaeth a ddaeth arnom yn y blynyddoedd hynny wedi i Jason a'i ddilynwyr gefnu ar achos y wlad sanctaidd a'r deyrnas,

8. a gosod cyntedd y deml ar dân a thywallt gwaed dieuog. Yna deisyfasom ar yr Arglwydd, ac atebwyd ein gweddi. Offrymasom aberth a blawd gwenith, a chynnau'r lampau a gosod y torthau cysegredig.

9. Ac yn awr yr ydych chwi i ddathlu dyddiau Gŵyl y Pebyll ym mis Cislef. Dyddiedig y flwyddyn 188.”

10. “Pobl Jerwsalem a Jwdea, y senedd a Jwdas, at Aristobwlus, athro'r Brenin Ptolemeus ac aelod o linach yr offeiriaid eneiniog, ac at Iddewon yr Aifft, cyfarchion ac iechyd i chwi.

11. Mawr yw'r peryglon yr achubwyd ni rhagddynt gan Dduw, a mawr yw ein diolch iddo, fel byddin y mae ei rhengoedd yn barod i wrthsefyll y brenin.

12. Ef a fwriodd allan y fyddin oedd yn barod i ymosod ar y ddinas sanctaidd.

13. Oherwydd pan aeth eu cadfridog i Persia gyda byddin a oedd i bob golwg yn anorchfygol, fe'u torrwyd yn ddarnau yn nheml Nanaia trwy weithred ystrywgar offeiriaid Nanaia.

14. Daeth Antiochus gyda'i Gyfeillion i'r deml i briodi'r dduwies, er mwyn cymryd ei chyfoeth enfawr fel gwaddol.

15. Dangosodd offeiriaid teml Nanaia y trysor iddo, ac aeth ef gydag ychydig o ddilynwyr i mewn trwy'r mur oedd o amgylch y fangre. Cyn gynted ag y daeth Antiochus i mewn i'r cysegr, clodd yr offeiriaid y dorau

16. ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan.

2 Macabeaid 1