2 Macabeaid 1:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Cynnull ynghyd ein pobl ar wasgar, rhyddha'r rheini sy'n gaethweision ymhlith y Cenhedloedd, edrych yn dirion ar y rheini sy'n cael eu dirmygu a'u ffieiddio, fel y caiff y Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw.

28. Rho boenau arteithiol yn gosb ar y rhai sy'n ein gormesu a'n cam-drin yn drahaus.

29. Gwreiddia dy bobl yn dy fangre sanctaidd, fel y dywedodd Moses.’ ”

30. “Yna canodd yr offeiriaid yr emynau.

2 Macabeaid 1