26. Derbyn yr aberth hwn dros dy holl bobl Israel, gwarchod yr eiddot dy hun a chysegra hwy'n llwyr.
27. Cynnull ynghyd ein pobl ar wasgar, rhyddha'r rheini sy'n gaethweision ymhlith y Cenhedloedd, edrych yn dirion ar y rheini sy'n cael eu dirmygu a'u ffieiddio, fel y caiff y Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw.
28. Rho boenau arteithiol yn gosb ar y rhai sy'n ein gormesu a'n cam-drin yn drahaus.
29. Gwreiddia dy bobl yn dy fangre sanctaidd, fel y dywedodd Moses.’ ”
30. “Yna canodd yr offeiriaid yr emynau.
31. Wedi llwyr losgi'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia fod yr hylif oedd yn weddill hefyd i'w arllwys dros gerrig mawr.
32. Pan wnaethpwyd hynny, dyma fflam yn ffaglu; ond aeth ei llewyrch yn ddim wrth ddisgleirdeb y goleuni oddi ar yr allor.
33. Daeth y digwyddiad hwn yn hysbys, ac mewn adroddiad i frenin y Persiaid dywedwyd i'r hylif ymddangos yn y man lle cuddiwyd y tân gan yr offeiriaid a gaethgludwyd, ac i Nehemeia a'i ddilynwyr ei ddefnyddio i buro'r aberthau.
34. Wedi iddo archwilio'r mater, cododd y brenin fur o amgylch y llecyn a'i gysegru.
35. Yr oedd y rhai a ffafriwyd ganddo â gofal y lle yn cael rhan o'r incwm helaeth a dderbyniai oddi yno.
36. Galwodd Nehemeia a'i ddilynwyr yr hylif yn ‘neffthar’, sy'n golygu ‘puredigaeth’, ond ei enw cyffredin yw ‘nafftha’.”