2 Macabeaid 1:19-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Oherwydd pan ddygwyd ein hynafiaid ymaith i Persia, cymerodd offeiriaid duwiol y cyfnod hwnnw dân oddi ar yr allor a'i guddio'n ddirgel yng ngheudod ffynnon oedd wedi sychu. Fe'i cadwasant ef yno mor ddiogel fel na wyddai neb am y fan.

20. Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato.

21. Wedi cyflwyno defnyddiau'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia i'r offeiriaid daenellu'r hylif dros y coed a'r hyn oedd yn gorwedd arno.

22. Gwnaethpwyd hyn, ac aeth peth amser heibio. Yna disgleiriodd yr haul, a fu dan gwmwl cynt, a ffaglodd tân anferth ar yr allor er rhyfeddod i bawb.

23. A thra oedd yr aberth yn llosgi'n ulw, aeth yr offeiriaid i weddi, yr offeiriaid ynghyd â phawb arall, gyda Jonathan yn arwain a'r gweddill yn ateb gan ddilyn Nehemeia.

24. A dyma ffurf y weddi: ‘O Arglwydd, Arglwydd Dduw, Creawdwr pob peth, yr hwn sydd yn ofnadwy a nerthol, yn gyfiawn a thrugarog, tydi yw'r unig frenin, yr unig un tirion,

25. yr unig ddarparwr; tydi'n unig sy'n gyfiawn a hollalluog a thragwyddol; tydi sy'n achub Israel rhag pob perygl; tydi a wnaeth ein hynafiad yn etholedig a'u cysegru.

26. Derbyn yr aberth hwn dros dy holl bobl Israel, gwarchod yr eiddot dy hun a chysegra hwy'n llwyr.

27. Cynnull ynghyd ein pobl ar wasgar, rhyddha'r rheini sy'n gaethweision ymhlith y Cenhedloedd, edrych yn dirion ar y rheini sy'n cael eu dirmygu a'u ffieiddio, fel y caiff y Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw.

28. Rho boenau arteithiol yn gosb ar y rhai sy'n ein gormesu a'n cam-drin yn drahaus.

29. Gwreiddia dy bobl yn dy fangre sanctaidd, fel y dywedodd Moses.’ ”

30. “Yna canodd yr offeiriaid yr emynau.

31. Wedi llwyr losgi'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia fod yr hylif oedd yn weddill hefyd i'w arllwys dros gerrig mawr.

32. Pan wnaethpwyd hynny, dyma fflam yn ffaglu; ond aeth ei llewyrch yn ddim wrth ddisgleirdeb y goleuni oddi ar yr allor.

2 Macabeaid 1