16. ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan.
17. Bendigedig fyddo ein Duw ym mhob peth, yr hwn a draddododd yr halogwyr i farwolaeth!
18. Gan ei bod yn fwriad gennym ddathlu puro'r deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Cislef, barnasom mai priodol fyddai eich hysbysu, er mwyn i chwithau ddathlu Gŵyl y Pebyll a chofio'r tân a losgodd pan offrymwyd aberthau gan Nehemeia, adeiladydd y deml a'r allor hefyd.
19. Oherwydd pan ddygwyd ein hynafiaid ymaith i Persia, cymerodd offeiriaid duwiol y cyfnod hwnnw dân oddi ar yr allor a'i guddio'n ddirgel yng ngheudod ffynnon oedd wedi sychu. Fe'i cadwasant ef yno mor ddiogel fel na wyddai neb am y fan.
20. Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato.
21. Wedi cyflwyno defnyddiau'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia i'r offeiriaid daenellu'r hylif dros y coed a'r hyn oedd yn gorwedd arno.
22. Gwnaethpwyd hyn, ac aeth peth amser heibio. Yna disgleiriodd yr haul, a fu dan gwmwl cynt, a ffaglodd tân anferth ar yr allor er rhyfeddod i bawb.